Cefndir a Diben
Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 18 Chwefror 2026 fel y diwrnod y daw Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2025 (“y Cod”) i rym.
Gweithdrefn
Dim gweithdrefn.
Materion technegol: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.
Er nad yw’r Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i un o weithdrefnau’r Senedd, mae’r Cod yn dilyn y weithdrefn a nodir yn Atodlen 8 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“Deddf 2000”). Mae’r Gorchymyn yn cadarnhau bod drafft o’r Cod wedi’i osod gerbron y Senedd ar 15 Rhagfyr 2025, yn unol â pharagraff 3(4) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000.
Yn unol â pharagraff 3(6) a 3(9) o Atodlen 8, os yw’r Senedd, o fewn cyfnod o 40 niwrnod (ac eithrio cyfnodau diddymu neu gyfnodau o doriad am fwy na phedwar diwrnod) sy’n dechrau â’r dyddiad gosod, yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r Cod drafft, ni chaiff Gweinidogion Cymru ei ddyroddi.
Mae paragraff 3(7) o Atodlen 8 yn darparu, ymhlith pethau eraill, os na wneir penderfyniad o’r fath gan y Senedd o fewn y cyfnod o 40 niwrnod, fod rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod, sy’n dod i rym ar y dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
Gwnaed y Gorchymyn hwn ar 12 Chwefror 2026, ac ymddengys fod y dyddiad hwn yn disgyn ar ddiwrnod 39 o’r cyfnod o 40 niwrnod.
Mae rhaglith y Gorchymyn yn cynnwys y datganiadau a ganlyn:
“Ni wnaed penderfyniad o’r math a grybwyllir ym mharagraff 3(6) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 gan Senedd Cymru o fewn 40 niwrnod i’r Cod Ymarfer drafft gael ei osod.
Dyroddwyd y Cod Ymarfer, ar ffurf y drafft a osodwyd gerbron y Senedd, gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(7)(a) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000…” [pwyslais wedi’i ychwanegu].
Felly, gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro’r canlynol:
1. y rheswm dros wneud y Gorchymyn hwn yn ystod y cyfnod o 40 niwrnod a ragnodir ym mharagraff 3 o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 (ac nid ar ôl iddo ddod i ben);
2. y dyddiad y dyroddodd Gweinidogion Cymru y Cod yn unol â pharagraff 3(7)(a) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000; ac, yn unol â hynny,
3. a yw Gweinidogion Cymru wedi’u bodloni y cydymffurfiwyd â gofynion Deddf 2000 wrth wneud y Cod.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
3 Mawrth 2026